bryn fôn a'r band
labelabel.co.uk Byn Fôn a'r band Eisteddfod Eisteddfod Bryn Fôn fideos bryn fon bryn fon Bryn Fôn
Label Abel label abel   Bryn Fôn
 

Newyddion...

Tebot Piws

Do, mae laBel aBel wedi dechra recordio artistiaid eraill heblaw Bryn fon a`r Band. Ac mi rydym yn falch iawn o allu datgan mai`r Tebot Piws yw`r band cynta i ymuno a ni.

Mae deugain mlynedd bellach ers i Alun “Sbardun” Huws , Dewi “Pws” Morris , Emyr Huws Jones a Stanley Morgan Jones gyfarfod yn y coleg yng Nghaerdydd , a dathliad o hynny ac o barhad eu cyfeillgarwch yw`r cd yma.
Tepot Piws

12 can newydd gan gyfansoddwyr rhai o ganeuon pop/gwerin gorau yr iaith Gymraeg ... a can neu ddwy gan Dewi Pws hefyd!

Yn 60au a 70au y ganrif ddiwethaf (dangos pa mor hen ydy nhw), cafodd y nosweithiau llawen sedet ei chwalu gan swn arloesol , cynhyrfus ac ar brydia , gwallgo y Tebotiwrs . Bellach a hwythau i gyd yn tynnu am eu trugain oed mae pethau yn dal yr un fath , ac mae`r cd newydd – 'Twll Du Ifan Saer' yn brawf o hynny.

Wedi ei recordio mis Mai eleni bydd cd newydd y Tebot Piws ar gael yn y siopau Cymraeg gorau o ganol mis Gorffennaf, gyda`r lansiad swyddogol yn y Clwb Trydan, Pontcanna. Nos Fercher 6ed a Nos Iau 7fed o Awst. Wythnos Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.





Yes it's true, laBel aBel have started to record other artists apart from Bryn Fôn a'r Band. The “Tebot Piws”, who made their name and 4 EP`s in the Sixties and Seventies of the last century (shows how old they are )are back with a brand new cd (their first).”Twll Du Ifan Saer “ is a great summery mix from the vintage mad-cap songsters.
The cd will be on sale from mid July in most welsh merchandise shops.

 

Prosiect Docfeistr

Mae M.C. Mabon ac M.C. Saizmundo wedi bod yn gweithio ar brosiect “Y Docfeistr” ers peth amser bellach. Eu bwriad oedd perswadio nifer o artistiaid i gyfansoddi caneuon ar yr un thema canolog, gan obeithio creu cyfanwaith eclectig. Bu`r ymateb yn anhygoel, cafwyd traciau gan Gruff Rhys, Cofi Bach a Tew Shady, Dyl Mei, Yr Ods, Llan Clan, Harri Richards, Pwsi Meri Mew, Endaf Presli, Mr Huw, Stilletoes, Bandana, Leigh Edwards a Skin Tyson. All hyn i gyd mond arwain at un peth, sef yr albwm gyd-syniol fwya cynhyrfus yn hanes y byd roc/pop Cymraeg. Gwyliwch y wefan hon am fwy o wybodaeth.

 

Hwyl fawr i rhai aelodau...

Dyma ni ar ddechra blwyddyn arall , ac mae na newid yn y gwynt !

Fydd Eleri Fôn a Barry Jones ddim yn perfformio hefo`r band yn 2008.

Bu “Archie” yn y band am tua deng mlynedd ac mae ein dyled yn fawr iddo am ei gyfraniad. Fe
ymunodd Eleri hefo Smaeliaid yn 1989, ac mae wedi bod yn cyd-ganu yn gyson a Bryn ers hynny . Diolch o galon iddi am bob cefnogaeth a pob lwc i`r ddau hefoi mentrau cerddorol newydd.

A croeo cynnes i Neil “MAFFIA” Williams ...

Ia ! Ydi. Ma`n wir ... mae Neil “Maffia” yn ymuno ar band ar y bas . Croeso – croeso yw ein can.


bryn fôn



 


 

 

 

 

Sobin a'r smaeliaid
   
 
hafan    amdanom ni    gigs     marchnata    fideos