| |
NEWYDDION
Dyma ni ar ddechra blwyddyn arall , ac mae na newid yn y gwynt !
Fydd Eleri Fôn a Barry Jones ddim yn perfformio hefo`r band yn
2008 .
Bu “Archie” yn y band am tua deng mlynedd ac mae ein dyled
yn fawr iddo am ei gyfraniad . Fe ymunodd Eleri hefo Smaeliaid yn 1989
, ac mae wedi bod yn cyd-ganu yn gyson a Bryn ers hynny . Diolch o
galon iddi am bob cefnogaeth a pob lwc i`r ddau hefoi mentrau cerddorol
newydd .
Neil “MAFFIA” Williams
...
Ia
! Ydi . Ma`n wir ... mae Neil “Maffia” yn ymuno ar band
ar y bas . Croeso – croeso yw ein can .
HANES Y BAND
Ffurfio
Diwedd yr 1980au, a dechrau`r 90au Sobin a`r Smaeliaid oedd un o brif
grwpiau Cymru , roedd eu casetiau cynnar wedi gwerthu yn dda ,a`i cefnogwyr
yn dechra cynyddu. Gyda rhyddhau y CD.`s “Caid” ac “A
rhaw “, ac wedi aresdio y prif leisydd, Bryn fôn, ar amheuaeth
o fod yn rhan o`r ymgyrch losgi tai haf o dan fantell 'Meibion Glyndwr
' yn 1991, daeth y grwp yn enwog drwy Gymru gyfan. Roedd eu poblogrwydd
a`u gallu i ddenu torfeydd mawr i`r prif wyliau yn cymharu ac Edward
H. ynghanol y 70au.
Bryn fôn a`r band evolved from Sobin a`r Smaeliaid. Les Morrison`s
production of Emyr Huws jones`s songs was an instant success and the
session musicians employed for recording the cd enjoyed the launch tour
so much they stayed and formed the band. After some coming and
going the present line-up have been together almost ten years.

Yn 1993 daeth dau arwr i daflu eu hyd a lledrith i`r pair byrlymus yma
,roedd Emyr Huws Jones (Ems) wedi bod yn bygwth cyfansoddi albwm ers
tro byd ,a pan ddaeth y demos i law Bryn roedd yn rhaid cael rhywun
arbennig i`w cynhyrchu. Wedi clywed y caneuon craidd , sylweddolodd
Les Morrison fod na ddeunydd CD unigryw yma. Penderfynodd Les na fyddai
swn adnabyddus y Smaeliaid yn gweddu i ganeuon emosiynol Ems ,ac aeth
ati i gyflogi nifer o gerddorion seshiwn enwog .
Wedi hysbysebu am gantoresau ar gyfer y prosiect, cafodd ymateb gan
gannoedd o ferched o bob rhan o Gymru, a daeth hanner cant i gael gwrandawiad
a dewiswyd tair yn y diwedd. Yn dilyn misoedd yn
y sdiwdio, rhyddhawyd 'Dyddiau Di-gymar' i`r byd yn
1994, cafwyd taith hyrwyddo lwyddianus ac yn ystod y teithio datgelodd
y cerddorion eu hawydd i barhau fel band parhaol ... ac felly y bu .
Esblygu
Erbyn hyn mae cerddorion wedi mynd a cherddorion wedi dod, rhai o`r
Smaeliaid wedi dychwelyd , a`r aelodau presennol yn cyd-chwarae ers
tua deng mlynedd. Rhyddhawyd ail Cd y band yn 1998 sef 'Dawnsio
a`r y Dibyn', oedd yn cynnwys caneuon gan Ems, Alun “Sbardun”
Huws, Barry “Archie” Jones, Les Morrison, Rhys Parry a Bryn
fôn .
laBel aBel

Awst 2001, a daeth y band at ei gilydd yn Stiwdio Famous yng Nghaerdydd
i recordio CD o ganeuon newydd wedi eu cyfansoddi gan yr aelodau yn
unig. Yn Mawrth 2003 trosglwyddwyd y caneuon craidd o dap i gyfrifiadur
Dave Wrench ym Mrynderwen, Bethesda ac mi fyddai`n Dachwedd 2004 ar
y gwaith gorffenedig yn cyrraedd y siopau, o dan y teitl 'Abacus'.
Bellach mae 'CAM' hefyd wedi ymddangos dan yr un label.
Casgliad o ganeuon gan y cyn Depotiwr Piws, Alun “Sbardun “
Huws, a ryddhawyd yn slei yn Eisteddfod y Faenol 2005.
Discography
1994 - Dyddiau Di-gymar (Recordiau
Sain)
1998 - Dawnsio ar y Dibyn (Recordiau
Sain)
2004 - Abacus (laBelaBel)
2005 - CAM (laBelaBel)
2008 - Toca (laBelaBel)
|
 |